english        
Amdanom Ni

page banner

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw heddlu cenedlaethol y rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaeth plismona ar gyfer cwmnïau rheilffordd, eu staff a theithwyr drwy Gymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r Heddlu hefyd yn gyfrifol am blismona system Rheilffordd Danddaearol Llundain, Rheilffordd Ysgafn y Dociau, System Dram Metro’r Canolbarth a Thramgyswllt Croydon. Rhyngddynt, mae’r busnesau rheilffordd hyn yn cludo tua pum miliwn o bobl bob dydd. Mae gan amgylchedd y rheilffordd ei anghenion penodol ei hun o ran plismona ac mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig – sydd erbyn hyn yn cynnwys 2,280 o swyddogion heddlu a 704 o staff heddlu – yn bodoli i ddarparu gwasanaeth plismona arbenigol i ddiwallu’r anghenion hynny.

Gall yr Heddlu olrhain ei hanes yn ôl i 1825, i ddechrau’r gwasanaeth heddlu ym Mhrydain.

Mae plismona’r rheilffyrdd yn rhan annatod o blismona’r gymuned yn gyffredinol a heddiw, mae’r Heddlu yn rhan o’r strwythur plismona cenedlaethol sy’n diogelu’r dinesydd. Mae’r mwyafrif o weithgareddau’r Heddlu, fel unrhyw heddlu arall, yn ymwneud â phlismona cyfraith a threfn, cadw heddwch y Frenhines a diogelu staff a’r cyhoedd.

Yn ystod blynyddoedd cynnar plismona’r rheilffyrdd, roedd gan Gwnstabliaid gyfrifoldeb penodol am yr ardal oddi amgylch gan fod pob Cwnstabl yn tyngu llw fel Cwnstabl y Sir yn ogystal â swyddog heddlu cwmni rheilffordd. Heddiw, mae’r Heddlu yn rhoi help llaw cyson i heddluoedd lleol, ac yn cael help yn ôl yn dâl am hynny, er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w gwsmeriaid.

Nid yw troseddu a throseddwyr yn meddwl ddwywaith cyn croesi terfynau siroedd a gellir cyflawni troseddau wrth deithio gyda dulliau cyflym iawn o ddianc. Mae natur rhwydwaith y system reilffyrdd hefyd yn golygu y gall digwyddiadau sy’n effeithio ar ei waith mewn un lleoliad dirgrynu i lawr y system gan achosi sgîl-effeithiau i filoedd o bobl filltiroedd lawer i ffwrdd. Dyma pam fod gan y rheilffyrdd anghenion arbennig o ran plismona a pham fod cael heddlu cenedlaethol ar gyfer y rheilffyrdd yn ateb cost-effeithiol.

Ddiwedd yr 19eg ganrif, roedd y rhwydwaith o reilffyrdd a oedd yn ymledu’n gyson yn rhoi cyfleoedd newydd i droseddwyr symud o amgylch y wlad. Heddiw, mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn gwneud defnydd llawn o dechnoleg fodern i dracio, atal a chanfod troseddau ledled y wlad.
Mae’r heddlu rheilffyrdd wedi bod yn arloesol mewn meysydd eraill hefyd yn ogystal â thechnoleg fodern.

Mae’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig modern yn anelu tuag at ddarparu gwasanaeth plismona o safon ac mae hynny’n golygu bod raid aros ar y blaen mewn perthynas â datblygiadau yn y diwydiant rheilffyrdd ac ym maes plismona yn gyffredinol.

Cafodd ymarferiad ad-drefnu mawr i strwythur yr Heddlu ei gynllunio yn ofalus a’i weithredu ym mis Ebrill 1992, i geisio rhagweld anghenion y diwydiant rheilffyrdd ailstrwythuredig yn y dyfodol.

Drwy ei hanes, mae’r Heddlu wedi esblygu i ddiwallu galwadau cynyddol y diwydiant a blismonir ganddo. Mae’r sefydliad wyth Ardal presennol wedi ei gynllunio i ddarparu’r gwasanaeth plismona gwerth am arian gorau posibl i’r diwydiant rheilffyrdd a’i ddefnyddwyr i mewn i’r ganrif nesaf.


   
© British Transport Police 2003 - Privacy Policy and Legal disclaimer